top of page

Hygyrchedd

Attitude Is Everything Silver.jpg

Rydyn ni wedi ein lleoli 0.4 milltir o orsaf drenau Casnewydd, 0.2 milltir o’r orsaf fysiau ac 1.5 milltir o’r M4.

TÅ· bach hygyrch

Un o’n prif flaenoriaethau ers i ni agor yw cadw tafarn a lleoliad sy’n hygyrch i bawb. Er bod y gwaith hwn yn dal i fynd yn ei flaen, rydyn ni wrth ein bodd o gyhoeddi ein bod wedi gosod tÅ· bach hygyrch ar y llawr gwaelod. Gofynnwch i’r staff wrth y bar er mwyn cael yr allwedd.

Ramp i fynd mewn i’r lleoliad

Mae ramp gyda ni ar gyfer dod i mewn i’r lleoliad. Yn anffodus, does dim ramp parhaol gyda ni ar hyn o bryd. Os bydd angen i chi ddefnyddio ramp i fynd i mewn i unrhyw gigs sydd ar y gweill, e-bostiwch sam@lepub.co.uk a byddwn yn sicrhau ei fod yno. 

​

Mae’r bar yn hollol hygyrch heb fod angen defnyddio ramp.

Tocyn ar gyfer cynorthwyydd personol

Os oes angen tocyn arnoch ar gyfer cynorthwyydd personol, anfonwch e-bost at sam@lepub.co.uk ac fe drefnwn ni un i chi yn rhad ac am ddim.

Ambell beth arall

Os bydd angen i chi ddod i mewn i’r lleoliad yn gynnar, yna gofynnwch i ni. Gallwn eich gadael i mewn 15 munud cyn i’r drysau agor.

Os bydd angen sedd arnoch ar gyfer gig sydd wedi ei hysbysebu fel gig sefyll yn unig, peidiwch â phoeni. Gallwn ni gynnig cadair uchel gyda chefnogaeth i’r cefn i chi.

NCP yw'r maes parcio agosaf i ni.

Os oes angen i chi ddod â moddion neu unrhyw beth arall fydd yn eich helpu i ddod i’r adeilad gyda chi, mae croeso i chi wneud hynny.


Rydyn ni’n croesawu cŵn cymorth.

Dydyn ni ddim yn defnyddio goleuadau strôb yn y lleoliad, ond weithiau bydd artistiaid yn dod â rhai eu hunain gyda nhw. Pan fydd hyn yn digwydd, byddwn yn rhoi arwyddion er mwyn nodi hyn wrth ddrysau’r lleoliad cyn i chi ddod i mewn. Os ydych chi’n rhywun sy’n cael adwaith i oleuadau strôb, rhowch wybod i ni a byddwn yn gofyn i’r artist i beidio â’u defnyddio.

Mae bwydlenni a rhestrau prisiau mewn print bras ar gael gyda ni wrth y bar os byddwch yn holi amdanyn nhw. Mae bwydlen hawdd ei darllen ar y gweill gyda ni, ac rydyn ni’n gobeithio y byddwn yn gallu ei chynnig yn fuan.

 

Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi ynghylch yr uchod neu am unrhyw anghenion dydyn ni ddim wedi eu crybwyll, e-bostiwch sam@lepub.co.uk ac fe’ch atebwn ni chi yn syth.

Attitude is Everything

Mae Attitude is Everything yn anfon cwsmeriaid cudd yn rheolaidd i leoliadau sydd wedi ymuno â’u siarter er mwyn asesu eu gwasanaeth. Rydyn ni’n croesawu hyn yn ogystal â’ch adborth chi.

Rydym wedi gosod llawr newydd ar diwedd 2020. Mae'r lleoliad nawr yn well ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. 

 

Os oes profiad gyda chi o fod yn Le Public Space, ac os hoffech chi awgrymu unrhyw welliannau o ran hygyrchedd e-bostiwch sam@lepub.co.uk

bottom of page