top of page

  Bwyd  a diod

Mae amrywiaeth ardderchog o ddiodydd gyda ni yn y bar. Mae diodydd alcoholig, diodydd ysgafn, a choffi gydag amrywiaeth o laeth o blanhigion i gyd ar gael i chi eu mwynhau. Mae llawer o gynnyrch lleol gyda ni yn ogystal â chynnyrch gan frandiau mwy. 

​

Rydyn ni bob tro yn edrych am gynnyrch newydd i’w werthu, ac rydyn ni o hyd yn newid beth sydd ar gael gyda ni. Rhowch wybod os oes unrhyw beth yr hoffech chi ei weld y tu ôl i’r bar! Mae ein bwydlen yn hollol figan ac mae’n cynnwys byrgyrs, adenydd, pasteiod a mwy. Gallwch fwynhau bwyd heb greulondeb mewn lleoliad croesawgar a bywiog.

 

Rydyn ni’n gweini bwyd 7 diwrnod yr wythnos, ac rydyn ni’n ceisio cadw ein cegin ar agor hyd nes 10pm bob dydd. Rydyn ni’n cau’r gegin ychydig yn gynharach ar benwythnosau oherwydd ei bod yn brysur. Os hoffech chi drefnu bwrdd ar gyfer achlysur arbennig e-bostiwch sam@lepub.co.uk. Fodd bynnag, anaml iawn y byddwn ni’n methu cynnig bwrdd i chi os byddwch yn gal heibio!

IMG_0020.jpg
bottom of page